Dywedwch wrth eich AS San Steffan y dylid adfer byd natur.

Mae angen natur ar bob un ohonom. Mae’n hanfodol ar gyfer ein bywydau. Yr aer yr ydym yn ei anadlu, y dŵr yr ydym yn ei yfed, a’r bwyd yr ydym yn ei fwyta. Ein hamddiffyniad rhag sychder a llifogydd. Nid yw’n rhywbeth dewisol, nac yn rhwystro twf. Nid yw’n elyn. Mae natur yn dirywio nawr. Heddiw, y DU yw un o’r gwledydd sydd wedi’i disbyddu fwyaf yn y byd o ran byd natur. Ond nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sylw i hyn.
 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi gosod byd natur fel rhwystr rhag twf economaidd, wedi gwrthdroi amddiffyniadau amgylcheddol pwysig, ac nid yw ar y trywydd iawn i gyflawni ei haddewid i adfer byd natur.

Mae ein lleoedd a’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr, o goedwigoedd, parciau ac arfordiroedd i’r ehedydd a’r draenog, mewn perygl. A heb weithredu’n ddigonol i adfer byd natur, mae ein diogeledd bwyd yn y fantol, bydd ein dyfroedd yn parhau i gael eu llygru, a bydd y genhedlaeth nesaf yn etifeddu byd sydd mewn argyfwng dyfnach. 

Mae yna ffordd arall. Trwy adfer natur nawr, gallwn greu gwlad sy’n ffynnu.

Mae arnom angen eich cymorth i alw am newid. Cyn Anerchiad y Brenin ym mis Mai, rydym ni’n gofyn i Lywodraeth y DU am dri pheth:

1. Adfer natur nawr – mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyflawni ymrwymiad y DU i reoli 30% o’r tir er budd natur erbyn 2030. Mae hynny’n golygu dynodi mwy o le ar gyfer natur a thalu ein ffermwyr yn briodol er mwyn helpu natur i ffynnu.

2. Gwarchod natur a bywyd gwyllt – rhoi terfyn ar wanhau’r cyfreithiau sy’n eu gwarchod. Cyflwyno Bil Diwygio Dŵr i lanhau ein hafonydd, ein nentydd a’n moroedd, a sicrhau bod llygrwyr yn talu.

3. Adeiladu lleoedd i ymfalchïo ynddynt - mynnu bod cymunedau’n cynnwys digon o fyd natur a rhoi terfyn ar fynediad annheg i fannau gwyrdd, gan ddechrau drwy gyhoeddi cynllun gweithredu hir ddisgwyliedig y Llywodraeth erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae’n amser penderfynu. A fyddwn ni’n creu byd sy’n ffynnu? Mae amser o hyd i Lywodraeth y DU newid trywydd a gwneud y peth iawn. I gynllunio dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu. I warchod bywyd gwyllt a chefnogi cymunedau. Mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth i wneud hynny. Heb natur, nid oes dyfodol. 

A wnewch chi siarad dros fyd natur?

Ychwanegwch eich llais drwy ysgrifennu at eich AS San Steffan lleol.

Cysylltu â chi
Trwy lofnodi, rydych chi’n siarad dros natur a phobl.  Pe dymunech, gallwn anfon diweddariad atoch am ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan - o wirfoddoli, mynychu digwyddiadau, neu gefnogi ein hymdrechion cadwraeth.

 


Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost a rhoi eich caniatâd, rydych yn cytuno i dderbyn negeseuon e-bost marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn cadarnhau eich bod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Gweler ein Polisi preifatrwydd.